Jack Reacher (ffilm)

Jack Reacher

Poster sinema'r ffilm
Cyfarwyddwr Christopher McQuarrie
Cynhyrchydd Tom Cruise
Don Granger
Paula Wagner
Gary Levinsohn
Ysgrifennwr Sgript gan:
Christopher McQuarrie
Seiliwyd ar:
One Shot
gan Lee Child
Serennu Tom Cruise
Rosamund Pike
Richard Jenkins
Werner Herzog
David Oyelowo
Jai Courtney
Jospeh Sikora
Robert Duvall
Cerddoriaeth Joe Kraemer
Sinematograffeg Caleb Deschanel
Golygydd Kevn Stitt
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Skydance Media
TC Productions
Dyddiad rhyddhau 21 Rhagfyr, 2012
(Yr Unol Daleithiau)
Dosbarthwyr
Paramount Pictures
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Mae Jack Reacher yn ffilm gyffrous acsiwn Americanaidd 2012.[1][2] Mae'n addasiad o'r nofel One Shot gan Lee Child a gyhoeddwyd yn 2005. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Christopher McQuarrie, a serenna Tom Cruise fel Jack Reacher a Rosamund Pike fel y twrnai Helen Rodin. Mae'r actorion David Oyelowo, Richard Jenkins, Jai Courtney, Werner Herzog, a Robert Duvall hefyd yn ymddangos yn y ffilm. Dechreuodd gynhyrchiad y ffilm yn Hydref 2011, a daeth i ben yn Ionawr 2012. Ffilmiwyd y ffilm gyfan yn Pittsburgh, Pennsylvania. Derbyniodd adolygiadau positif, gan berfformio yn iawn mewn sinemâu yng Ngogledd America.

Rhyddhawyd y ffilm yng Ngogledd America ar 21 Rhagfyr, 2012 ac yn y Deyrnas Unedig ar 26 Rhagfyr, 2012. Cyfansoddwyd y sgôr cerddorol gan Joe Kraemer a fe'i berfformiwyd gan y Symffoni Stiwdio Hollywood. Recordiwyd y sgôr yn Llwyfan Sgorio Sony yn Culver City, Califfornia. Perfformiodd Cruise ei styntiau gyrru ei hun yn y ffilm. Bydd Cruise yn ailgydio yn y rôl mewn dilyniant i'r ffilm, Jack Reacher: Never Go Back, a seilir ar y nofel 2013 Never Go Back. Rhyddheir y ffilm ym mis Hydref 2016.

  1. "Jack Reacher's chilling scenes dismay". The Australian. December 29, 2012. Cyrchwyd 4 Ionawr 2013.
  2. "Jack Reacher (2012)". Allmovie. Rovi Corporation. Cyrchwyd 4 Ionawr 2013.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search